Carwyn Jones a Nicola Sturgeon (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae prif weinidogion Cymru a’r Alban wedi cytuno heddiw i gydweithio ar welliannau i Fesur Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd llywodraeth San Steffan.

Ymrwymodd Carwyn Jones a Nicola Sturgeon, wedi cyfarfod yng Nghaeredin, hefyd i gydlynu cyngor i’r Senedd a’r Cynulliad er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth am y risgiau sy’n codi yn sgil gadael Ewrop.

Yn dilyn eu cyfarfod, dywedodd y ddau brif weinidog:

“Rydyn ni’n agosáu at ugain mlynedd ers y ddau refferendwm a fu’n sail i sefydlu Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru. Mae’r pleidleisiau hynny, a’r gwaith o ddatblygu datganoli ers 1998, yn darparu sylfaen ddemocrataidd ddiogel i hunanlywodraeth yng Nghymru a’r Alban.

“Ers y bleidlais i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynd i’r afael â’r broses ymadael drwy wrthod egwyddor datganoli a’r egwyddor o rannu’r broses benderfynu ar draws y gwledydd hyn – sef dewis clir pobol Cymru a’r Alban.

“Yn fwyaf diweddar, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi papurau safbwynt sy’n ymwneud â buddiannau hanfodol Cymru a’r Alban, ond sydd wedi’u paratoi heb i’r gweinyddiaethau datganoledig gael cyfle i gyfrannu atyn nhw.

“Yn fwyaf difrifol, mae Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgais haerllug i ganoli’r pwerau penderfynu yn San Steffan, gan fynd yn hollol groes i’r pwerau a’r cyfrifoldebau datganoledig presennol.

“Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban eisoes wedi dweud yn glir na allan nhw argymell i Senedd yr Alban a’r Cynulliad Cenedlaethol roi’r cydsyniad deddfwriaethol angenrheidiol i’r Bil. Rydym o’r farn na ddylid caniatáu i’r Bil fynd rhagddo yn ei ffurf bresennol.

“Er mwyn darparu ffordd adeiladol ymlaen, mae Llywodraethau Cymru a’r Alban bellach yn gweithio i gytuno ar welliannau posibl i’r Bil a fyddai’n mynd i’r afael â’n pryderon. Rydyn ni hefyd yn cydlynu ein cyngor i’r Senedd a’r Cynulliad er mwyn sicrhau eu bod yn deall ein pryderon yn llawn, ynghyd â’n cynigion eraill.”