Mae llawlyfr teithio’r
Rough Guide wedi rhoi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar frig rhestr o’r llefydd gorau drwy’r byd i wylio’r sêr.

Mae’r parc eisoes wedi ennill statws rhyngwladol Gwarchodfa Awyr Dywyll am yr ymdrech i wella ansawdd aer a lleihau llygredd golau.

Wrth ddisgrifio’r ardal mae’r Rough Guide yn sôn am “ymdrech y gymuned” i “leihau llygredd aer yn effeithiol… gan greu amodau digon clir i weld sêr gwib, nifylau, ac yn fwy prin, Goleuadau’r Gogledd.”

“Gall pobol o’r ddinas o Gaerdydd a Bryste gerllaw ddod â’u sbienddrychau i Benybegwn neu i adfeilion atmosfferig priordy Llanddewi Nant Honddu i brofi nosweithiau serennog,” meddai’r datganiad.

Yn cyrraedd y rhestr o ddeg hefyd mae ardaloedd o Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Chile, Hawaii a Namibia