Andrew R T Davies, arweinydd Ceidwadwyr Cymreig
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw’r cyfarfod rhwng Prif Weinidogion Cymru a’r Alban heddiw, yn ymgais i “danseilio Brexit”.

Yn ystod eu cyfarfod yng Nghaeredin mi fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn trafod diogelu pwerau’r gwledydd datganoledig wedi Brexit.

Yn ôl Andrew RT Davies dyma yw’r “ymgais ddiweddaraf ymysg cyfres hir o ymgeision” gan Carwyn Jones, i rwystro cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig  i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hefyd yn galw’r drafodaeth yn un “eilradd a diddefnydd,” ac yn cyhuddo’r llywodraethau datganoledig o beidio â chydweithio â llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn modd “positif.”

Agwedd bositif

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ceisio cydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig mewn modd positif yn ystod pob cam ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Y tristwch ydi bod llywodraethau Cymru a’r Alban heb ymddwyn yn yr un modd. Dyma dystiolaeth bellach o Lywodraeth Llafur Cymreig sydd yn hapus i eistedd ar y cyrion yn cwyno – yn hytrach nag ymddwyn mewn modd positif i wneud Brexit weithio i bawb.”