Carwyn Jones, Nicola Sturgeon yn y cyfarfod i drafod Brexit yn Downing Street, Hydref 2016 (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae Prif Weinidog Cymru’n teithio i Gaeredin heddiw lle bydd yn cyfarfod â Nicola Sturgeon i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gydweithio i amddiffyn datganoli.

Bydd y ddau’n trafod y ffordd orau o amddiffyn datganoli ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd gan geisio atal pwerau rhag cael eu canoli gan Lywodraeth San Steffan.

“Trwy siarad ag un llais, byddwn yn ei gwneud yn glir na all Llywodraeth y Deyrnas Unedig orfodi ei hewyllys ar rannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai Carwyn Jones.

Bil Ymadael

Ychwanegodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Cymru wedi ei “gwneud hi’n glir” ei bod yn barod “i ddod ynghyd i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio cytuno ar drefniadau’r dyfodol.

“Ond mae eu hymddygiad dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos nad oes ganddynt unrhyw awydd gwirioneddol i dderbyn y gwahoddiad,” meddai.

Am hynny dywedodd na fyddai’n argymell i’r Cynulliad gydsynio’r Bil, “oni bai ein bod yn gweld newid llwyr yn eu hagwedd”. 

‘Gweithio gyda’n gilydd’

Dywedodd Nicola Sturgeon fod Llywodraeth yr Alban am wneud “popeth o fewn ei gallu i atal Brexit eithafol, i gadw’r Deyrnas Unedig yn y Farchnad Sengl ac i amddiffyn datganoli.”

Eglurodd fod pwerau wedi’u haddo i’r Alban cyn ac ar ôl y refferendwm annibyniaeth – “ond, yn lle hynny, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynllunio i roi cyfyngiadau newydd ar Senedd yr Alban.”

“Mae Bil Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd pwerau i San Steffan yn unig – hyd yn oed mewn meysydd polisi sydd wedi’u datganoli.

“Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ellir caniatáu i bwerau gael eu cipio fel hyn,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at drafod gyda Carwyn Jones sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i newid y Bil fel bod modd amddiffyn datganoli ac amddiffyn buddiannau pobl yr Alban a Chymru.”