Mae BBC Cymru wedi cadarnhau eu bod yn rhoi gorau i’w ‘llif byw’ o newyddion ddeg awr y dydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Ers ei lansio yn 2014, roedd Cymru Fyw wedi cynnig ‘ffrwd’ o bytiau newyddion rhwng 8 y bore a 6 o’r gloch, gan grynhoi straeon, dolenni a gwybodaeth o ffynonellau, papurau a gwefannau newyddion eraill.

O hyn allan, fe fyddan nhw’n cynnal y ‘llif byw’ yn ystod digwyddiadau mawr yn unig neu wrth i “newyddion mawr” dorri.

“Arbrofi â ffyrdd newydd”

“Dros amser, rydym wedi gweld bod y defnydd o’r llif byw ar ei uchaf ar achlysuron penodol e.e. pan fo stori newyddion mawr yn torri ac yn datblygu, neu o ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod neu’r Sioe Fawr,” meddai Huw Meredydd Roberts, Rheolwr Gwasanaethau Ar-lein Cymraeg BBC Cymru wrth egluro’r newidiadau i’r gwasanaeth.

“Rydym wedi penderfynu felly i ganolbwyntio ar gynnal llif byw yn ystod y cyfnodau yma, yn hytrach na’i gynnal bob dydd o’r wythnos.”

Mae datganiad y BBC yn ymhelaethu i ddweud y byddan nhw’n datblygu elfennau eraill o’r gwasanaeth ar draul y llif byw.

“Er enghraifft, rydym yn awyddus i gryfhau ein gallu i ddatblygu straeon newyddion gwreiddiol a chyhoeddi darnau nodwedd unigryw yn ein hadran Cylchgrawn,” meddai Huw Meredydd Roberts wedyn.  

Datblygu adrannau rhanbarthol

Ymhlith y datblygiadau newydd fe fydd creu mwy o gynnwys fideos, graffeg, adrannau rhanbarthol, ynghyd ag ehangu’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

“Un o elfennau’r llif byw dyddiol oedd ein bod yn cynnig dolenni i gynnwys ar-lein am Gymru tu hwnt i wefan y BBC, ac mae hyn yn parhau yn nod i ni fel gwasanaeth,” meddai Huw Meredydd Roberts.

“Rydym yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o allu gwneud hyn er mwyn parhau i dynnu sylw ein defnyddwyr i’r cyfoeth o gynnwys sydd ar gael ar-lein yn y Gymraeg.”