Gareth, yr epa sinsir (Llun: S4C)
Mae fideos byrion sy’n cael eu cyhoeddi gan S4C ar wefannau cymdeithasol, wedi cael eu gwylio filiwn o weithiau yn y deufis ers lansio’r gwasanaeth 
ar Fehefin 11 eleni.

Mae’r fideos, sy’n dod dan y teitl Hansh, ac sy’n cael eu cynhyrchu ar gyfer cyhoeddi ar rwydweithiau cymdeithasol fel Facebook yn gyntaf, yn cynnwys comedi, cerddoriaeth a chymeriadau difyr.

Ymysg y cynnwys mwyaf poblogaidd ar y gwasanaeth ar hyn o bryd mae:

– fideos Bry, y cymeriad di-flewyn ar dafod o orllewin Cymru;

– caneuon doniol y ddeuawd brith HyWelsh, sef Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer;

– cyfweliadau lletchwith Gareth, yr epa sinsir, gyda cherddorion amlwg;

– canllaw tra gwahanol Esyllt Ethni-Jones i leoedd Cymru;

– ynghyd â’r bwystfil bwyta o Abertawe, Sgrameer.

Rhwng y we a’r sgrin

Yfory (dydd Mawrth, Awst 22) fe fydd cyfres newydd sbon Tân a Mwg – sef eitemau coginio ar farbeciw gyda’r blogiwr bwyd Chris ‘Foodgasm’ Roberts yn rhai o leoliadau mwyaf prydferth Cymru – ar ychwanegiad at y gwasanaeth.

 “Mae’r ffigyrau gwylio ac ymgysylltu ar gyfer deufis cyntaf gwasanaeth Hansh yn galonogol iawn,” meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C. “Mae’n dangos bod modd cyrraedd cynulleidfaoedd newydd Cymraeg drwy lwyfannau cymdeithasol.

“Rydym wedi’n cyffroi wrth edrych ymlaen at weld cnwd newydd o gynnwys gan amrywiaeth eang o leisiau ar y ffordd i Hansh ar ôl rownd gomisiynu ddiweddar.

“Bydd y rhain yn ehangu apêl y gwasanaeth ymhellach, ac adeiladu ar sail y dalent sydd eisoes wedi profi’n boblogaidd.”

Er bod Hansh yn gynnwys sydd wedi ei greu i fod yn ddigidol yn gyntaf, mae hefyd yn cael ei becynnu a’i guradu ar ffurf rhaglen wythnosol ar sianel deledu S4C os ydych chi am wylio’r cynnwys ar sgrin fwy. Bydd y gyfres newydd o Hansh ar y teledu yn dechrau Medi 7.