Llys y Goron Abertawe
Mae dyn wedi’i garcharu ar ôl achosi marwolaeth teithiwr yn ardal Aberystwyth y llynedd.
Clywodd y llys fod Ricafort Gamboa, 25 oed, yn ceisio cyrraedd cyflymder o 100mya wrth i’w ffrindiau ei ffilmio ar gyfer Snapchat pan darodd ei gar i mewn i dŷ ar fin priffordd yr A487 ym mhentref Rhydgaled.
Bu farw un o’r teithwyr, a chafodd dau arall eu hanafu yn y digwyddiad.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Orffennaf 15, 2016, ac fe gafodd Ricafort Gamboa o Bolton ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Llun, Awst 21).