Mae undeb Unsain wedi galw ar aelodau bwrdd tai cymunedol yng Nghwmbrân i ddod ag anghydfod dros gyflogau i ben “ar unwaith”, cyn y bydd streicwyr yn colli eu tai.

Mewn llythyr iataelodau bwrdd Tai Cymunedol Bron Afon mae llefarydd ar ran yr undeb yn rhybuddio am effaith toriadau i gyflogau ac yn nodi bod gweithwyr bellach “mewn perygl o orfod gadael eu tai.”

Mae cyhoeddiad y llythyr yn cyd-daro â seithfed diwrnod o streicio heddiw, gan weithwyr cynorthwyol y tai cymunedol.

Yn wreiddiol mi roedd y gweithwyr yn derbyn cyflog o £23,572 y flwyddyn, ond yn dilyn toriadau i’w cyflog maen nhw bellach yn ennill £20,416.

“Teimlo’n ddiwerth”

“Mae ymyrraeth gweithwyr cynorthwyol yn galluogi i [breswylwyr tai cymunedol Bron Afon] i gynnal eu tenantiaeth ac i gadw eu cartrefi,” meddai Trefnydd Rhanbarthol Unsain, Peter Short. 

“Nawr, oherwydd bod y cyflogau wedi eu torri, mae rhai o’r gweithwyr mewn perygl o orfod gadael eu tai oherwydd dydyn nhw ddim yn medru talu eu biliau … Roedd gweithwyr arfer teimlo balchder wrth weithio i Bron Afon, ond nawr maen nhw’n teimlo’n ddiwerth.

 “Rhowch gyfarwyddyd i’ch rheolwyr i ddod â’r anghydfod yma i ben ar unwaith, os gwelwch yn dda.”