(llun o wefan yr heddlu)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n chwilio am fandaliaid a dorrodd i mewn i gadeirlan Bangor nos Iau gan achosi difrod sylweddol.

“Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw ymddygiad neu weithgarwch amheus yn y cyffiniau,” meddai’r swyddog ymchwilio Pc Arthan o orsaf heddlu Bangor.

“Roedd hon yn weithred ffiaidd a ddifrododd adeilad lleol poblogaidd a phwysig, a bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i ddal y rheini sy’n gyfrifol.

“Dw i’n gofyn i’r gymuned leol ddal i fod yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw weithgarwch amheus ar unwaith i’r heddlu.”

Gall unrhyw un a all helpu’r ymchwiliad gysylltu â’r heddlu’n uniongyrchol ar

http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx, am sgwrs fyw ar y we neu trwy ffonio 101 neu 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod RC1712 5600.