Blodyn Tatws (Llun: ITV Cymru)
Fe ddaeth y newydd nos Wener (Awst 18) am farwolaeth yr actor, Robin Griffith.

Mae cyfeillion a chyd berfformwyr wedi bod yn rhoi teyrngedau iddo ar wefan gymdeithasol Facebook.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd Robin Griffith yn ei hwyliau ym mhrifwyl Môn yn cymryd rhan mewn sesiwn i gofio’r rhaglen blant, Miri Mawr, ac i nodi cyfraniad y diweddar gynhyrchydd, Peter Elias Jones.

Robin Griffith oedd llais y pyped, Blodyn Tatws, yn Miri Mawr.

Ond roedd hefyd yn actor llwyfan a theledu llwyddiannus, ac fe ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau Cymraeg, yn cynnwys Un Nos Ola Leuad.

Er mai un o hogiau pentref Llangoed ym Môn oedd Robin Griffith, roedd wedi byw yn Llundain ers blynyddoedd.