Mae cymdeithas teithio yn Siapan wedi enwi lôn mewn tref yn y gogledd fel un o’r 20 gorau yn Ewrop.

Mae’r gymdeithas asiantwyr teithio [JATA] wedi tynnu sylw at ffordd yng Nghonwy.

Dim ond dwy ffordd ym Mhrydain sydd wedi cael eu dewis gan y grŵp.

Mae JATA yn amlwg yn hoffi’r ardal ar ôl iddyn nhw wobrwyo Conwy yn 2015 fel un o’r pentrefi prydferthaf yn Ewrop.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hyn wedi arwain at gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn ymwelwyr o asiantaethau JATA, gyda disgwyl 2,380 o ymweliadau rhwng mis Ebrill a Medi 2017.

Mae’r daith arall a ddaeth i’r brig yng ngwledydd Prydain yn dod i ben yng Nghaerdydd ac wedi’i selio ar rygbi, gan ddechrau yn nhref Rugby.

Cafodd 73 cais o 21 gwlad eu hystyried ar gyfer y wobr oedd yn cael eu casglu gan asiantwyr teithio, cwmnïau teithio, byrddau twristiaeth, cwmnïau awyrennau, ac aelodau eraill o Gyngor Hyrwyddo Tîm Ewrop JATA.

Gwerthu Conwy i Siapan

Croeso Cymru a drefnodd i aelodau JATA fynd ar y daith ger Conwy ym mis Tachwedd, lle wnaeth y grŵp gyfarfod ag Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yng Nghanolfan Fwyd Bodnant.

Mae’r Ysgrifennydd yn dweud bod y wobr yn cynnig platfform i Gonwy, a Chymru, yn Siapan.

“Mae’r wobr hon yn newyddion rhagorol, ac mae’n dangos y gwerthfawrogiad cynyddol sydd o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig fel cyrchfan wyliau ymhlith cwmnïau teithio o Siapan.

Mae’r diwydiant yng Ngogledd Cymru wedi croesawu’r cyfle i ddenu mwy o ymwelwyr o’r farchnad ac yn edrych ymlaen at eu croesawu i’r ardal.

“Bydd y wobr hon yn rhoi rhagor o gyfleoedd inni ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda JATA ar hyrwyddo Cymru i ymwelwyr o Siapan.” 

Dywedodd Jim Jones, rheolwr-gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru, fod yna cynnydd o 84% yn nifer yr ymwelwyr o Siapan sy’n dod i Ogledd Cymru.

“Byddwn yn hyrwyddo’r llwybr cyffrous hwn yng Ngogledd Cymru yn un o’r Expos mwyaf yn y byd ym mis Medi, ac am y tro cyntaf gyda chymorth gan VisitBritain a Chroeso Cymru, bydd gennym stondin masnach wedi’i brandio yn yr Expo i hyrwyddo Cymru.”