Mae disgwyl i dorf o rhwng 2,000 a 3,000 ddod i glywed Jeremy Corbyn yn siarad ym Mangor yfory, yn ôl Arweinydd y Blaid Lafur ar Gyngor Gwynedd, Siôn Jones.

Gan fod disgwyl miloedd,, mae lleoliad rali arweinydd y Blaid Lafur bellach wedi symud o’r cloc ym Mangor i’r parc ger pwll nofio’r ddinas ar Heol y Garth.

Dywed y Cynghorydd Siôn Jones o Lafur fod tipyn o gyffro yn yr ardal cyn yr ymweliad, ond nad oedd e’n sicr y byddai’n gallu bod yno, am fod gŵyl flynyddol Bethel y mae’n ei threfnu, yn digwydd yr un pryd.

“Mae am fod yn ddiwrnod prysur gyda’r ŵyl felly dw i ddim yn meddwl bydda’ i yna yn anffodus, ella’ fydda i yno, dw i ddim yn siŵr eto,” meddai Siôn Jones, oedd wedi cael cais i gyflwyno Jeremy Corbyn i’r dorf.

“Dw i wedi cynnig iddo fo ddod i’r digwyddiad [ym Methel], ond dydy ei office o heb gadarnhau, felly dw i ddim yn meddwl neith o. Mae gynno fo amserlen dynn.”

Paratoi at etholiad cyffredinol arall

Dywedodd Siôn Jones fod y blaid bellach yn paratoi ar gyfer etholiad cyffredinol arall, rhag ofn y bydd un yn cael ei alw dros y misoedd nesaf.

Ac fe gadarnhaodd wrth golwg360 y byddai’n ystyried sefyll fel Aelod Seneddol. Mae e’ eisoes wedi bod yn ymgeisydd dros y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

“Mae’r Blaid Lafur rŵan yn paratoi at etholiad cyffredinol ac maen nhw’n dewis ymgeiswyr yn reit fuan,” meddai.

“Dw i’n gweld Jeremy jyst yn paratoi rŵan at etholiad cyffredinol, mae e’n gwneud tour o’r seddi i gyd ym Mhrydain.

“Dw i’n meddwl bydd o yn gyffredinol yn sôn am y Torïaid a faint o ddrwg maen nhw’n gwneud o’r wlad, y smonach maen nhw’n gwneud efo Brexit ac yn y blaen.”

Llafur yn Arfon

Mae aelodaeth y Blaid Lafur yn ardal Arfon wedi cynyddu’n sylweddol dros y misoedd diwethaf, yn ôl Siôn Jones.

Yn ystod etholiad cyffredinol mis Mehefin, bu bron i AS Arfon, Hywel Williams, o Blaid Cymru, golli ei sedd i’r ymgeisydd Llafur.