Dr Elin Walker Jones
Mae Darlithydd Seicoleg o Brifysgol Bangor wedi herio’r ddadl bod siaradwyr Cymraeg yn ei 
chael hi’n anoddach cofio rhifau na siaradwyr Saesneg.

Fe gafodd golwg360 ymateb Dr Elin Walker Jones i eitem ar wefan yr Independent  o’r enw ‘Ydych chi’n ddigon clyfar i Rydychen?’ sydd yn gofyn cyfres o gwestiynau y byddai disgwyl i ddarpar fyfyrwyr eu hateb yn gywir.

Y cwestiwn olaf yw: ‘Mae arbrawf yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn waeth am gofio rhifau ffôn nag siaradwyr Saesneg. Pam?’

Mae’r Athro Seicoleg, Nick Yeung, o University College Oxford yn ateb y cwestiwn gan honni bod rhifau yn y Gymraeg yn hirach ac yn anoddach i’w ynganu ac felly yn anoddach i’w cofio.

“Mae rhifau yn cael eu sillafu yn wahanol ac yn hirach yn y Gymraeg nac yn Saesneg, ac mae cof (a rhifyddeg) yn dibynnu ar ba mor hawdd mae geiriau i’w ynganu,” meddai Nick Yeung.

Iaith ffonetig

Mae Elin Walker Jones yn gwrthod sylwadau Nick Yeung ac yn nodi bod rhifau yn haws i’w darllen ac ynganu yn y Gymraeg.

“Baswn i ddim yn dweud fod geiriau yn fwy cymhleth yn y Gymraeg ,” meddai. “Mae ‘un deg un’ yn gwneud synnwyr perffaith – gwell nag ‘eleven’.

 “Mae unrhyw un sy’n dweud bod y Gymraeg yn anodd ei sillafu yn siarad nonsens llwyr. Saesneg sydd yn anodd ei sillafu. Dyw’r Gymraeg ddim yn anodd o gwbl. Mae’n ffonetig.”

Yn ôl Elin Walker Jones mae ymchwil yn dangos fod y Gymraeg yn “fwy tryloyw yn orthograffaidd” – sy’n golygu bod Cymraeg yn haws i bobol dyslecsic ei darllen na’r iaith Saesneg.

“Profiad o’r iaith”

O ran casgliadau’r arbrawf, mae Dr Elin Walker Jones yn derbyn gall fod gwahaniaethau rhwng gallu siaradwyr y ddwy iaith i gofio rhifau – ond mae yn dweud mai presenoldeb cryf y Saesneg yn ein bywydau sy’n gyfrifol am hyn.

“Mae beias diwylliannol mewn unrhyw brawf,” meddai. “Mae hefyd yn dibynnu ar dy brofiad o’r iaith. Os wyt ti’n cael mwy o brofiad o glywed a gweld rhifau yn Saesneg mi fydd dy brofiad o ffigurau Cymraeg yn llai.

“Ac mi fydd [dy brofiad yn llai] gan ein bod ni’n byw mewn byd lle mae enghreifftiau o Saesneg o dy gwmpas di ym mhob man. Felly bydd hi’n haws [cofio’r Saesneg].”