Pen ucha'r Rambla (Ralf Roletchek GNU1.2)
Mae merch ifanc o Aberystwyth wedi sôn am ei hofn wrth weld pobol Barcelona yn “rhedeg hyd y strydoedd am eu bywydau.”

Mae Mary Grice Woods, 16, yn y ddinas yng Nghatalunya ar hyn o bryd ac wedi mynd ar gyfryngau cymdeithasol i rannu ei theimladau a rhoi gwybod i’w ffrindiau ei bod yn ddiogel.

‘Mewn sioc’

“Dw i mewn sioc gyda digwyddiadau ofnadwy heddiw,” meddai ar ei thudalen Facebook.

“Dyw e ddim tan eich bod yn gweld pobol yn rhedeg y strydoedd am eu bywydau gyda’u plant yn crio [rydych yn gweld] sut mae’r hyn ry’n ni’n galw’n brawychiaeth yn effeithio bywydau pobol.

“Mae wir wedi gadael ôl arnaf i a fy nheulu ac mae ein meddyliau gyda’r teuluoedd a ffrindiau sydd wedi’u heffeithio heddiw.

“Does dim geiriau. Mae’n teimlo mor afreal ein bod ni yng nghanol ymosodiad brawychol.”

13 wedi’u lladd

Cafodd 13 o bobol eu lladd prynhawn ddoe ar ôl i fan yrru i mewn i gerddwyr ar un o strydoedd prysuraf Barcelona, Las Ramblas.

Fe wnaeth yr heddlu rwystro ymosodiad arall yng Nghatalunya, yn nhref wyliau fechan Cambrils, i’r de o’r brifddinas, ac mae pum ymosodwr wedi cael eu lladd.

Bellach mae’r heddlu’n dweud eu bod wedi arestio tri person.