Morganne Bendle
Mae byd un teulu wedi cael ei droi ben i waered ar ôl cael eu gorfodi o’u cartref yn dilyn pryderon dros dirlithriad posib ar y stryd lle maen nhw’n byw.

Mae Morganne Bendle, 24, ei mam, a’i brawd a’i chwaer fach, sydd ill dau yn eu harddegau, yn un teulu o blith deg ar Ffordd Gyfyng, Ystalyfera sydd wedi gorfod symud allan ar ôl cael llythyr gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhybuddio nad yw eu cartrefi yn ddiogel.

Mae’r rhan fwyaf o’r teulu wedi bod yn aros mewn un ystafell mewn llety gwely a brecwast ers dydd Mawrth, 8 Awst, tra bod Morganne wedi bod yn aros gyda pherthnasau.

“Gorfod symud mas”

Dywedodd wrth golwg360 fod y teulu wedi cael llythyr swyddogol wythnos ddiwethaf yn dweud wrthyn nhw symud allan ond bod pob dim arall wedi bod yn “word of mouth.”

Chwe mis yn ôl, bu tirlithriad ger y stryd lle mae’r teulu yn byw ond cafodd trigolion yr ardal wybod bod hi’n ddiogel i fynd yn ôl i’w cartrefi ar y pryd.

“Nawr maen nhw’n dweud wrthym ni mas o ‘nunlle bod ni’n gorfod symud mas,” meddai Morganne Bendle.

“Ni ddim yn gwybod beth sydd mynd i ddigwydd gyda’r tŷ, mae pethau contradicting wedi cael eu dweud.

“Os ma’n nhw’n ffeindio bod y tai ddim yn ddiogel a bod pobol yn methu symud nôl mewn, newn nhw gondemnio’r stryd a chael gwared ar bopeth.

“Yn y llythyr, mae e’n dweud y byddan nhw’n helpu ni o ran ffeindio tŷ newydd, [achos] nawn ni fyth gwerthu’r tai yma, hyd yn oed os mae e’n dweud bod e’n ddiogel i symud nôl mewn, does dim gwerth ar y tai yma o gwbl rhagor.

“I fi a mam, a phawb arall ar y stryd, mae e wedi bod yr amser mwya’ stressful. Does dim geiriau i ddisgrifio fe… helpless falle’.”

Mae’r teulu wedi cael gwybod y gallai gymryd hyd at chwe mis tan fod nhw’n gwybod os yw eu cartref yn ddiogel i fynd nôl iddo.

Tŷ dros dro

Yn y cyfamser, mae’r cyngor wedi cysylltu â nhw prynhawn yma i roi gwybod bod tŷ “gweddol leol” ar gael dros dro, er dydy’r teulu ddim yn gwybod eto am ba hyd y gallan nhw aros yno.

Does dim sicrwydd y gall dau gi y teulu, sydd yn y broses o gael eu symud i gytiau cŵn, fyw gyda nhw yn y tŷ newydd chwaith.

Mae’r teulu, sy’n berchen ar eu tŷ ar Ffordd Gyfyng, yn dweud y byddan nhw’n gorfod ffeindio rhywle arall i fyw yn barhaol ac mai rhentu byddan nhw’n gorfod gwneud, gan nad ydyn nhw’n gwybod “beth sy’n digwydd o ran y morgais.”

Mae’r cwmni yswiriant tŷ, More Than, heb gynnig help chwaith, yn ôl y teulu, gan addo i dalu costau yn y lle cyntaf ond wedyn yn mynd nôl ar yr addewid hwnnw.