Sam Palmer, swyddog y prosiect
Mae cynllun i greu llwybr beiciau 16 milltir o hyd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo wedi derbyn hwb gwerth £132,000.

Daw’r arian ar gyfer prosiect Llwybr Dyffryn Tywi o gronfa sydd wedi ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Bydd Llwybr Dyffryn Tywi yn dilyn yr hen reilffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, ac mae Cyngor Sir Gâr yn gobeithio bydd yn rhoi hwb i dwristiaeth a’r economi lleol.

Mae disgwyl i’r prosiect gostio cyfanswm o rhwng £5 miliwn ac £8 miliwn, ac mi fydd yr hwb diweddaraf yn cyfrannu tuag at ddatblygu rhan o’r llwybr ger pentref Nantgaredig.

Prosiect “ffantastig”

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned leol er mwyn darparu rhywbeth bydd o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr y sir,” meddai Swyddog y Prosiect, Sam Palmer.

“Mae’r prosiect yma yn un ffantastig, a gan fy mod i’n seiclwr brwdfrydig, dw i’n medru gwerthfawrogi pa mor bleserus fydd hi i seiclo ar hyd y llwybr trwy gefn gwlad odidog Dyffryn Tywi.”