Mae Urdd Gobaith Cymru yn hysbysebu am Brif Weithredwr newydd, wedi ymadawiad Sioned Hughes y mis diwethaf.

Yn ol yr hysbyseb, fe fydd y Prif Weithredwr newydd yn ennill cyflog o rhwng £67,618 – £78,388 y flwyddyn ac yn gallu dewis gweithio yn unrhyw un o swyddfeydd y mudiad – yng Nglan-llyn, Llangrannog, Caerfyrddin neu Gaerdydd.

Medi 15 ydi’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau, ac fe fydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal dros benwythnos Medi 30/Hydref 1.

Fe adawodd y Prif Weithredwr diweddaraf wedi llai na dwy flynedd yn y rôl. Roedd wedi cytuno i adael ei swydd oherwydd anghydfod rhyngddi a rhai o gyfarwyddwyr y mudiad.

Mai Parry Roberts yw Prif Weithredwr dros dro’r Urdd, ac mi fydd hi’n parhau i weithio’n rhan amser nes y bydd Prif Weithredwr newydd yn cael ei benodi.