Hywel Williams AS
Mae  swyddfa Aelod Seneddol Arfon wedi cadarnhau ei fod yn derbyn ymddiheuriad gan gyhoeddwyr cylchgrawn LOL, wedi iddyn nhw gyhoeddi “rwtsh” amdano yn y rhifyn diweddaraf.

Fe wnaeth Hywel Williams gyhuddo’r cylchgrawn dychanol blynyddol o’i enllibio yn y rhifyn a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon – a hynny trwy honni ei fod o blaid bomio Syria pan oedd tystiolaeth yn dangos yn glir fod yr AS wedi pleidleisio yn erbyn hynny.

Mae LOL wedi cyhoeddi datganiad yn “ymddiheuro’n daer a diffuant” i Hywel Williams, ond mae’r cyhoeddwyr ‘Cwmni Gwaeth’ hefyd yn dweud bod rhai o ddatganiadau’r gwleidydd a’i gefnogaeth i grwpiau gwahanol yn peri dryswch ar safle Hywel Williams yn y ddadl.

Maen nhw fodd bynnag yn cydnabod bod hyn yn wahanol iawn i “annog” rhyfel yn Syria.

Anghofio’r mater

Mae Hywel Williams ar ei wyliau yr wythnos hon, ond pan gysylltodd golwg360 â’i swyddfa etholaeth yng Nghaernarfon, dyw#r Aelod Seneddol ddim am wneud sylw arall ar y mater.

Dywedodd llefarydd ar ei ran fod y gwleidydd am i LOL ymddiheuro a chydnabod eu cam a’i fod yn fodlon eu bod wedi gwneud hynny.

Mae Hywel Williams am anghofio’r mater, meddai’r llefarydd wedyn.