Mae meddyg o Lanrhymni yng Nghaerdydd yn wynebu colli ei waith a’i drwydded ar ôl cyfaddef bod â miloedd o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant.

Cafodd cyfrifiadur Armon Daniels, 55, ei archwilio gan yr heddlu.

Roedd e’n gweithio yng nghanolfan gofal sylfaenol Llanrhymni pan gafodd dros 16,000 o ddelweddau ac 850 o fideos eu darganfod ar gyfrifiadur a chofbin.

Fe blediodd yn euog yn Llys Ynadon Casnewydd i bedwar cyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant, ac fe gafodd ei ddedfrydu i wyth mis o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, gan farnwr yn Llys y Goron Casnewydd heddiw.

Fe fydd yn rhaid iddo fod ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd, ac yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol am yr un cyfnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd Armon Daniels wedi cyrraedd y safonau oedd yn ddisgwyliedig gan feddyg.

Fe fu’n feddyg am fwy na 30 o flynyddoedd, ond mae e wedi’i wahardd o’i waith gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.