Mae angen i un ym mhob pump o bobol yng Nghymru drydanu eu ffôn clyfar nifer o weithiau bob dydd – ac mae ym mhob 25 yn gorfod eu tjarjio gydol y dydd.

Dyna mae ymchwil newydd gan CHARGit yn ei ddweud wrth iddyn nhw ymchwilio i’r angen am fannau trydanu ffonau clyfar.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod un ym mhob pump o bobol yng Nghymru’n mynd â theclyn trydanu ffôn gyda nhw i drydanu eu ffôn yn gyson.

23% o bobol sy’n mynd â theclyn sydd angen ei roi yn y wal, tra bod tua 15% o bobol yn mynd â theclyn cludadwy gyda nhw.

Yn ôl yr arolwg, mae 56% o bobol yn poeni bod eu ffonau’n mynd i golli pŵer.

Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar 100 o ymatebion yng Nghymru allan o 2,000 drwy wledydd Prydain.

Batri

Dywedodd cyd-sylfaenydd CHARGit, Hayley Freedman fod oes y batri yn un o brif gwynion defnyddio ffonau clyfar.

“Rydym yn dibynnu cymaint arnyn nhw ar gyfer gweithgareddau o ddydd i ddydd – boed yn anfon negeseuon, cyfryngau cymdeithasol, ebyst, cadw trefn a hyd yn oed gemau – does dim syndod fod defnydd cyson yn rhoi straen arnyn nhw.”