Gethin Thomas (ar y chwith) gyda Daniel Glyn
Gethin Thomas oedd pensaer comedi stand-yp Cymraeg.

Nol yn y 1990au, Geth oedd y boi aeth ati i drefnu teithiau stand-yp amgylch Cymru. Roedd yn angerddol am gomedi, ac yn gynhyrchydd ac ysgrifennwr heb ei ail. Cefais lot o anturiaethau yn ei gwmni, gan gynnwys wythnos gwyllt yn Efrog Newydd yn chasio Rhys Ifans er mwyn medru sicrhau cyfweliad.

Roedd Gethin hefyd yn angerddol am hawliau cwmnioedd cynhyrchu bach. Pan geisiodd Radio Cymru hawlio nad oedd digon o gwmnïoedd cynhyrchu radio Cymraeg i warantu rhyddhau canran o’i arian i’r sector annibynnol, aeth Geth ati i brofi fod hyn ddim yn wir.

Geth hefyd oedd y dyn daeth yn ol o gyfarfod TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn hawlio fod yr acronym yn sefyll am ‘Thieves and Crooks’. Nice gag, Geth!

Rydym wedi colli ffrind unigryw, ac mae’r diwydiant wedi colli dyn angerddol a chlyfar, dyn oedd yn caru comedi. Nos da, Geth.