Elfyn Llwyd
Mae cyn-Arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, wedi sôn am ei brofiad “ofnadwy” ag ymchwilydd rhaglen
Newsnight y BBC.  

Cafodd Elfyn Llwyd ei wahodd i fod yn westai ar rifyn nos Fercher ddiwethaf o’r rhaglen er mwyn trafod y cwestiwn “a ydi’r Gymraeg o help neu’n hindrans i’r genedl”.

Mae’r rhifyn eisoes wedi denu ymateb chwyrn am y ffordd y cafodd yr iaith a’i siaradwyr eu portreadu. Yn ôl Elfyn Llwyd, roedd yr ymchwilydd a fu mewn cysylltiad gydag ef yn arddangos “difaterwch difrifol” ynghyd ag “anwybodaeth”.

Mae’n debyg fod yr ymchwilydd dan sylw yn credu fod Elfyn Llwyd yn dal i fod yn Aelod Seneddol, pan mae mewn gwirionedd wedi ymddeol ers 2015. At hynny, roedd yr ymchwilydd dan yr argraff ei fod yn cynrychioli Cymdeithas yr Iaith.

Penderfynodd Elfyn Llwyd wrthod y gwahoddiad i fod yn westai ar y rhaglen.

Eisteddfod

Mewn ymgais i oleuo’r ymchwilydd, fe ddywedodd Elfyn Llwyd y gallai hi fod yn anodd cael gafael ar gyfranwyr o siaradwyr Cymraeg ddydd Mercher diwethaf oherwydd y  byddai nifer yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Mon… ond doedd yr ymchwilydd ddim yn deall dim am y brifwyl chwaith.

“Oedd rhaid fi esbonio beth oedd yr Eisteddfod,” meddai Elfyn Llwyd wrth golwg360. “Oedd ganddo fo ddim syniad. A dw i ddim yn meddwl oedd o’n gwybod y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith. Ac oeddwn i’n meddwl ‘iesgob, mae hyn yn ddifrifol’.

“Oedd o’n dangos naill ai difaterwch difrifol, neu fod nhw eisiau ein cymryd ni’n ysgafn. Ac oeddwn i’n cael y teimlad pan welais i’r rhaglen ein bod ni bellach yn safle’r Gwyddelod rhyw deg mlynedd ar hugain yn ôl pan oedd hi’n iawn gwneud hwyl am eu pennau nhw os oeddech chi’n Sais.

“A rŵan mae’r iaith Gymraeg yn destun sbort yn Llundain hefyd.”

‘Darn salaf erioed’

Mae Elfyn Llwyd wedi ymddangos ar raglen Newsnight sawl gwaith ac wedi edmygu’r rhaglen yn y gorffennol . Ond bellach, meddai, mae’n credu bod ei safon newyddiadurol “wedi cyrraedd y gwaelod”.

“Mae’n rhaid i mi ddweud, pan welais i’r rhaglen, os fasa hi ddim mor ddifrifol, y byddai hi’n jôc,” meddai. “Oedd o’n ofnadwy. Oedd o’n gythreulig, oeddwn i’n meddwl. Un o’r darnau newyddiaduraeth salaf dw i wedi’u gweld erioed.

“Ac mae’n ofid i mi, oherwydd dw i wedi bod ar y rhaglen rhyw hanner dwsin neu wyth o weithiau dros y blynyddoedd a dw i wedi ystyried y rhaglen yna yn un safonol iawn o ran ymchwil, newyddiaduraeth gyffredinol a’r ffordd mae’n dod drosodd,” meddai Elfyn Llwyd wedyn.

“Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef rŵan, dw i wedi gweld hi’n gostwng ers talwm. Ond mae wedi cyrraedd y gwaelod erbyn hyn.”