Mae deiseb sydd yn galw am adolygiad annibynnol o sut mae’r
BBC yn portreadu’r iaith Gymraeg wedi cael ei lofnodi gan dros 7,000 o bobol.

Daw’r galw yn sgil eitem ar raglen BBC Newsnight ddydd Mercher diwethaf (Awst 6), lle bu gwesteion di-Gymraeg yn trafod y cwestiwn, “a ydi’r Gymraeg o help neu’n hindrans i’r genedl”.

Gan fod y ddeiseb wedi derbyn dros 5,000 llofnod, fe fydd sefydlydd y ddogfen sef cyn-Bennaeth digidol S4C, Huw Marshall, yn cysylltu â’r “grwpiau perthnasol” er mwyn mynnu adolygiad.

Yn ôl y ddeiseb, mi fyddai adolygiad yn medru sefydlu “os oes problem â phortread y Gymraeg” ac yn asesu’r hyn sydd yn cael ei weithredu gan y BBC i “ddiogelu tegwch golygyddol.”

Mae’r ddeiseb wedi’i chyfeirio at yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Bwrdd Unedol y BBC a’r rheoleiddiwr darlledu Ofcom.

Ymateb ac ymddiheuro

Mae’r rhaglen eisoes wedi derbyn ymateb chwyrn am ei phortread o’r Gymraeg ac mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi ei beirniadu am gyfleu “anwybodaeth lwyr.”

Mewn datganiad mae’r BBC yn mynnu yr oedd “gwahanol safbwyntiau” wedi eu cynnwys, ond yn nodi bod “yn ddrwg ganddyn nhw” nad oedd y “dadansoddiad a’r ddadl yn fwy trylwyr”.