Mae e-bost ffug Gymraeg yn cylchredeg yn galw am gyfraniadau tuag at “waith elusennol Duw”.

Mae’n ymddangos fod y neges wedi’i chyfieithu gan beiriant ac mae’n cael ei hanfon o gyfeiriad e-bost un sy’n galw ei hun yn ‘Mrs Rose Emmanuel’.

Mae’r neges yn sôn am ddynes sydd wedi dioddef a cholli’i theulu mewn damwain gan ddweud -“rwyf wedi penderfynu Will / Rhowch swm o ($ 2,500,000.00) i elusen ac unigolyn ar gyfer gwaith da Duw,” meddai.

Dywed ei bod am “helpu’r fam, heb fod yn freintiedig a hefyd am gymorth y gweddwon…”

Mae’n ychwnaegu – “Y cyfan yr wyf am i chi ei wneud yw cynorthwyo i gadw’r gronfa hon yn ddiogel a adneuwyd yng ngofal y cwmni diogelwch cyn iddo gael ei atafaelu neu ei ddatgan yn anhrefnadwy.”

Mae’n galw ar bobol i anfon e-bost yn ôl ati  er mwyn rhoi “rhagor o fanylion i chi”, ond y cyngor ydi i beidio ag ymateb i’r neges o gwbwl.