May Baxter-Thornton ac Emma Lewis (Llun: PA)
Mae dwy ddynes sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol pan yn blant, wedi’u hethol i fod yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru.

Cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus (IICSA) ei lansio fis Tachwedd y llynedd ac mae wedi cwrdd â dioddefwyr, goroeswyr ac arbenigwyr yn Abertawe, Casnewydd, Caerdydd a Chaernarfon hyd yn hyn.

Fe fydd May Baxter-Thornton o Gasnewydd ac Emma Lewis o Abertawe yn cynghori’r ymchwiliad ar y ffyrdd gorau o estyn at ddioddefwyr a goroeswyr yng Nghymru.

‘Cyfraniad pwysig’

Arweinydd yr ymchwiliad ydy’r Athro Alexis Jay a dywedodd, “bydd y persbectif Cymreig y bydd May ac Emma yn ei gynnig yn darparu cyfraniad pwysig at waith y panel ymgynghori dioddefwyr a goroeswyr”.

Dioddefodd May Baxter-Thornton o gam-drin rhywiol pan oedd yn blentyn yn yr 1970-80au ac mae wedi gweithio yn cynorthwyo dioddefwyr trais domestig am 16 mlynedd.

Ychwanegodd Emma Lewis ei bod wedi mynd i gartref gofal yn 10 oed gan ddatgelu gyntaf iddi gael ei cham-drin yn rhywiol pan oedd yn 12 oed.