Fe fydd dros filiwn o bobol yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y cynnydd i’r oedran pensiwn gwladol, yn ôl gwaith ymchwil.

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fis diwethaf y byddai’r oedran pensiwn gwladol yn codi o 66 i 68 rhwng 2037 a 2039 yn hytrach nag yn 2044, sef y cynllun gwreiddiol.

Yn ôl dadansoddiad y Blaid Lafur, mi fydd cynlluniau i godi’r oedran ymddeol o 66 i 68 yn effeithio 1,658,460 o bobol yng Nghymru.

“Gweithio am yn hirach”

“Diolch i ddiwygiad y Torïaid, bydd dros filiwn o bobol yng Nghymru, a 36.9 miliwn ledled Prydain, yn cael eu gorfodi i weithio am hirach ac i aros yn hirach am eu pensiwn,” meddai Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Cysgodol Llafur, Debbie Abrahams.

“Bydd Llafur yn cadw’r oedran pensiwn gwladol yn 66, ac rydym yn ymgynghori â chymunedau ar draws y wlad ynglŷn â sustem bensiynau fydd yn diogelu ymddeoliad iachus i’r mwyafrif, nid y