Rhai o dai y Welsh Streets yn Lerpwl (Llun: Karen Owen)
Mae cynllun gwerth miliynau o bunnau i droi strydoedd y tai Cymreig yn Lerpwl yn gartrefi i’w rhentu, wedi’i ddadorchuddio.
Fe gafodd y tai yn ardal Toxteth, sy’n cael eu nabod fel y ‘Welsh Streets’, eu codi gan weithwyr Cymreig yn yr 19eg ganrif a’u henwi ar ôl pobol, pentrefi, dyffrynnoedd a threfi fel Treborth, Dovey a Geraint.
Ymysg strydoedd y Welsh Streets mae Madryn Street, sef y stryd lle cafodd Ringo Starr, drymiwr band y Beatles, ei eni.
Cwmni Placefirst sydd yn gyfrifol am adnewyddu’r adeiladau ac mae disgwyl bydd gwaith ar y grŵp cyntaf o gartrefi wedi’i gwblhau erbyn mis Medi.
Mae’r cynllun i adnewyddu Welsh Streets yn rhan o gynllun ehangach gwerth £30m a gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Dinas Lerpwl ym mis Mehefin.
Yn 2015, fe fu protestio mawr yn erbyn cynlluniau Cyngor Dinas Lerpwl i ddymchwel y tai a chodi blociau o fflatiau yn eu lle.