Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy o arbenigwyr meddygol yn ymuno â pharafeddygon gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru yn y gogledd.

Y bwriad yw cynnig triniaeth arbenigol i gleifion yn y fan a’r lle gan gynnwys trallwysiad gwaed, anesthesia a chyffuriau lladd poen.

Daw’r cyhoeddiad mewn lansiad gan Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, ym maes awyr Caernarfon heddiw.

Hofrennydd newydd

Mae’r cyhoeddiad yn ychwanegu at waith ‘Meddygon Awyr Cymru’ neu (EMRTS Cymru) sy’n cydweithio â’r Ambiwlans Awyr, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i ddarparu gofal meddygol brys cyn mynd i ysbyty.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ‘Meddygon Awyr’ wedi gweithredu ar hofrenyddion sy’n seiliedig yn Dafen (Llanelli) ac yn y Trallwng.

Mae’r cam nesaf yn golygu datblygu canolfan yr elusen yng Nghaernarfon ynghyd â darparu hofrennydd newydd ar gyfer y gogledd.

‘Gwella’r gwasanaeth’

“Rwy’n croesawu’r fenter hwn a fydd yn gwella’r gwasanaeth presennol o Gaernarfon ac yn ei roi ar yr un lefel â gweddill y cyflenwad EMRTS sydd ar gael mewn llefydd eraill,” meddai Vaughan Gething.

“Mae Cymru yn medru ymfalchïo yn y ffaith fod gennym ofal critigol o safon platinwm sefydledig a chyson ar draws yr holl wlad, drwy ganolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru,” meddai Dr Ami Jones, Cyfarwyddwr dros dro EMRTS Cymru.

“Mae’r Gwasanaeth yn cynorthwyo gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn barod, ond mae’r cam nesaf yma yn ein datblygiad ond yn gallu gwella’r buddion rydym yn eu cynnig, nid yn unig yng Ngogledd Cymru, ond ym Mhowys a rhannau o Geredigion.”