Mae nifer y troseddau gwledig wedi codi yng ngwledydd Prydain yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.

Wrth gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol, mae’r undeb a’r yswiriwr gwledig NFU Mutual, yn nodi rhywfaint o leihad yng nghostau’r troseddau hynny.

Yn ôl yr undeb, cost y troseddau gwledig yng Nghymru oedd £1.3m, sy’n cymharu ag £1.6m yn yr Alban, £2.5 m yng Ngogledd Iwerddon a llai na £34m yn Lloegr.

Beiciau cwad ac offer oedd yr eitemau oedd yn cael eu targedu fwyaf, ac ni fu lleihad yng nghostau

troseddau da byw yng Nghymru o gymharu â’r lleihad yn y gwledydd eraill.

“Tra bod y cwymp mewn troseddau gwledig yn ystod 2016 yn newyddion rydym yn ei groesawu, mae’r cynnydd sydyn yn hanner cyntaf 2017 yn achosi pryder mawr,” meddai Tim Price, arbenigwr ar faterion gwledig NFU Mutual.

Dywedodd fod ffermwyr yn gorfod troi ei ffermydd yn “amddiffynfeydd i ddiogelu eu hunain rhag lladron sy’n dod yn ôl i dargedu beiciau cwad, tractorau ac offer trydanol”.

Mae’r undeb yn rhybuddio ffermwyr i fod yn wyliadwrus gan eu cynghori i ddefnyddio dyfeisiau tracio ar eu peiriannau gan gynnwys infra-red.