Fe ddaeth i’r amlwg mai Llŷr Gwyn Lewis ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd yr Athro Peredur Lynch ei fod yn awyddus i gadeirio’r cystadleuydd oedd wedi defnyddio’r ffugenw ‘Merch y Drycinoedd’.

Ond ‘Gari’ – neu Osian Rhys Jones – aeth â hi yn y pen draw gan fod y ddau feirniad arall, Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis yn ei ffafrio yntau.

Llŷr Gwyn Lewis

Un o Gaernarfon yw Llŷr Gwyn Lewis yn wreiddiol, ac fe astudiodd ym mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.

Fe gwblhaodd ddoethuriaeth ar waith T Gwynn Jones a W B Yeats.

Ar ôl cyfnod yn ddarlithydd yn Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn olygydd adnoddau gyda CBAC yng Nghaerdydd.

Daeth i frig categori Ffeithiol-Greadigol Llyfr y Flwyddyn yn 2015 am ei gyfrol Rhyw Flodau Rhyfel.

Ymddangosodd ei gyfrol farddoniaeth, Storm ar wyneb yr haul (Barddas) ar restr fer y categori barddoniaeth.

Yn gynharach eleni, cafodd Llŷr ei ddewis yn un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop, fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw.