Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddifrod troseddol a bygwth rhywun ag arf yng Nghasnewydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ganolfan siopa Friars Walk am 9.43pm nos Fawrth yn dilyn adroddiadau bod ganddo fe gyllell.

Roedd yr heddlu wedi bod yn apelio am wybodaeth amdano fe.