Mae’r maes ieuenctid – Maes B – wedi denu ymateb chwyrn gan wersyllwyr y maes carafanau eleni.

Yn ystod Eisteddfodau’r gorffennol mae Maes B a’r safle carafanau wedi eu lleoli yn bell o’i gilydd, ond eleni mae’r ddau safle yn gymdogion.

O holi ar faes yr Eisteddfod mae golwg360 wedi clywed am brofiadau gwersyllwyr blin a blinedig y maes carafanau, sy’n cwyno bod sŵn y bandiau yn cario o Faes B.

Yn ôl John Tomos o Forfa Nefyn sy’n carafanio, “gallwch chi ddim peidio” â chlywed y sŵn o Maes B, tra bod Llinos Lewis sy’n cystadlu eleni wedi cael noson ddigwsg neithiwr wrth i Bryn Fôn ddenu miloedd i wrando arno ym Maes B.

“Dw i’n aros wrth y fynedfa a wnes i ddeffro am ddau o’r gloch fore yma yn gallu clywed pob gair a phob nodyn o Bryn Fôn  o fy ngharafán i,” meddai  Llinos Lewis  sydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod eleni.

“Mae Bryn Fôn yn grêt, ond ddim pan rydach chi’n cysgu ac eisiau codi bore wedyn. Dydy o ddim yn ddelfrydol o gwbl, bod o mor mor agos, ac mae’n amharu braidd.”

“Swnllyd yn awr”

Mae Laura Caradog o Bontyberem yn aros yn y maes carafanau gyda’i phlant, ac yn nodi ei bod wedi cael “amser hyfryd” er gwaetha’r glaw – ond mae yn pryderu am y sŵn.

“Mae pethau wedi mynd ychydig bach yn swnllyd yn awr gyda Maes B drws nesaf. Noswaith gyntaf doedden ni ddim yn clywed unrhyw beth,” meddai. “Ond, neithiwr ges i fy neffro gan Bryn Fôn ganol nos.”

“Toiledau yn warthus”

Yn ogystal â phroblemau sŵn mae Manon Tudur sydd yn aros mewn carafan yn nodi fod pobol ifanc o Maes B yn defnyddio eu cyfleusterau yng Nghae A.

“Gan ein bod ni’n aros yn Cae A mae’r bobol ifanc wedi bod yn defnyddio’r cyfleusterau,” meddai  Manon Tudur.  “Felly bore yma, pan oeddwn i eisiau bod ar y maes am wyth o’r gloch roedd y toiledau yn warthus.

“Doedd neb wedi glanhau o gwbl ac oedd y bobol ifanc wedi bod yn defnyddio nhw yn ystod y nos. Felly doedd dim modd cael cawod nac ymolchi.”

Cwrdd â gofynion

Yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mae lleoliadau’r meysydd aros yn cwrdd â gofynion rheolau sŵn.

Mae hefyd yn nodi bod lleoliad y maes carafanau yn agos i faes yr Eisteddfod ac felly o fudd i ymwelwyr sydd yn gwersylla.