Mae Aelod Cynulliad wedi condemnio’r sïon am ddyfodol arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Yn ôl Siân Gwenllïan, AC Arfon, mae’r dyfalu’n “ddiangen” ac yn tynnu sylw oddi wrth y frwydr yn erbyn Llafur a’r Ceidwadwyr.

“Mae Leanne wedi uno’r Blaid ac mae angen cynnal yr undod hwnnw yn yr adeg tyngedfennol hwn yn ein hanes,” meddai Siân Gwenllïan, sy’n un o gefnogwyr amlwg Leanne Wood.

Mae’r dyfalu wedi dechrau gyda rhai datganiadau ar y cyfryngau gan aelodau amlwg fel Simon Thomas a Rhun ap Iorwerth – er fod ei sylw ef wedi’i gymryd o’i gyd-destun.

Wrth siarad ar Radio Cymru’r bore yma, wnaeth arweinydd posib arall, Adam Price, ddim amddiffyn Leanne Wood yn gry’ ond fe bwysleisiodd fod cyfrifoldeb ar bawb i fod yn rhan o’r gwaith.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Siân Gwenllïan fod angen “sefydlogrwydd i ganolbwyntio ar yr heriau sylweddol sy’n ein hwynebu fel cenedl”.

Dadansoddiad Dylan Iorwerth

Mae’r drafodaeth ar ddyfodol Leanne Wood yn dilyn patrwm clasurol o rai pobol yn dechrau gwneud sŵn y tu ôl i’r llenni ac arweinwyr posib eraill yn osgoi cynnig cefnogaeth ddi-gwestiwn.

Trwy awgrymu y byddech chi’n fodlon ystyried bod yn arweinydd ryw dro, rydech chi’n cynnig anogaeth i rai a fyddai’n eich cefnogi chi i wthio ychydig yn galetach.

Yn yr achos yma, er hynny, mae’n ymddangos mai ateb cwestiwn cyffredinol oedd Rhun ap Iorwerth ar gyfer rhaglen Dewi Llwyd – heb fod yn rhan o drafodaeth am Leanne Wood.

Yr hyn sy’n fwy trawiadol ydi methiant rhai o’r ffigurau amlwg eraill i roi cefnogaeth ddiamod iddi hi.

Ar yr un pryd, mae yna deimlad o fewn y Blaid nad yw Leanne Wood wedi gallu manteisio ar y sylw a gafodd hi ar y cyfryngau Prydeinig er mwyn gwella perfformiad y blaid.

Er bod nifer y seddi yn yr Etholiad Cyffredinol wedi cynyddu o dair i bedair, fe fyddai wedi cwympo i ddwy oni bai am ychydig gannoedd bleidleisiau a’r perfformiad yn gyffredinol oedd un o’r rhai gwana’ ers blynyddoedd.