Dyddiau gwell .. Stacey a Ryan Giggs yn 2011 (Dave Thompson Gwifren PA)
Mae disgwyl i’r cyn-chwaraewr pêl-droed, Ryan Giggs, a’i wraig, Sophie, gwblhau eu hysgariad mewn llys yn Llundain heddiw.

Fe fydd hynny’n digwydd bron union ddeng mlynedd ers iddyn nhw briodi, a hynny ar ôl o gyn-seren Cymru a Man Utd fod ynghanol sgandal am berthynas rywiol honedig gyda’r fodel Gymraeg Imogen Thomas.

Y disgwyl yw y bydd yr ysgariad yn digwydd yn gyflym heddiw mewn llys yn Holborn ar ôl cyfnod o ymrafael tros rannu adnoddau ariannol y cwpwl – dyw hynny ddim wedi ei setlo eto.

Er fod barnwr wedi gorchymyn nad oes hawl cyhoeddi rhai o’r manylion ariannol nac enwau plant y ddau, mae’n ymddangos bod Ryan Giggs yn hawlio ei fod ef wedi “gwneud cyfraniad arbennig” at incwm y teulu.

Giggs a’r ‘gorchymyn gagio’

Mae’r achos wedi ei restru dan Giggs SA and RJ ac nid dyma’r tro cynta’ i Ryan Giggs gael ei gynrychioli gan lythrennau mewn achos llys.

Fe gafodd sylw mawr am achos llys arall pan oedd yn ceisio atal cyhoeddusrwydd am berthynas honedig gyda’r fodel Imogen Thomas o Lanelli, yn y cyfnod ar ôl iddi hi ymddangos ar y rhaglen Big Brother.

Er fod y llys wedi atal yr wybodaeth, fe gafodd enw Ryan Giggs ei gyhoeddi’n eang ar wefannau cymdeithasol a’i ddatgan yn y diwedd gan Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Roedd yr achos yn un pwysig yn y ddadl tros “orchmynion gagio” i warchod pobol enwog.