Lesley Griffiths, yn bwriadu cefnogi'r cynllun (Llun o'i gwefan)
Fe fydd protest ar faes yr Eisteddfod heddiw yn galw am ddiswyddo Ysgrifennydd Amgylchedd Cymru tros gynllun anferth i godi tai mewn ardal Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y dylai Lesley Griffiths gael y sac ar ôl iddi awgrymu ei bod yn cefnogi bwriad i godi 366 o dai yn ardal Penrhosgarnedd, Bangor.

Mae ymgyrchwyr lleol yn dweud mai pobol o’r tu allan fydd yn prynu’r tai am nad oes na alw lleol ac y gallai hynny arwain at ostyngiad o 10% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

‘Diffyg dealltwriaeth’

“Mae Lesley Griffiths wedi dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o’r sefyllfa leol hyd yn hyn, ac wedi gwrthod ystyried y Gymraeg o gwbl,” meddai Menna Machreth o GYmdeithas yr Iaith, sy’n trefnu’r brotest.

“Yn wir, dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud ei bod hi’n fygythiad i’r Gymraeg a chymunedau Cymraeg. Mi ddylai hi gael ei diswyddo.”

Fe fydd y cynghorydd lleol Elin Walker-Jones ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn y brotest a’r Prifardd Ieuan Wyn o gymdeithas Cylch yr Iaith.

Y cefndir

Roedd cynghorwyr Gwynedd wedi gwrthod cais y cwmni datblygu o Gaer, Morbaine, gan ddadlau bod y cynllun yn rhy fawr i’r ardal.

Roedd arolygydd ymchwilio wedi cefnogi’r cais ac, ar ôl i’r cwmni apelio, mae Lesley Griffiths eisoes wedi sgrifennu atyn nhw yn awgrymu’n gry’ ei bod hi am ganiatáu’r datblygiad.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi bod yn rhoi barn ar y mater gan ei fod yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.