Evan Davis, yr holwr ar Newsnight (Llun cyhoeddusrwydd y BBC)
Dyw’r BBC ddim wedi ymddiheuro am eitem yn amau gwerth yr iaith Gymraeg ar eu rhaglen Newsnight neithiwr.

Maen nhw wedi cydnabod y dylai’r eitem fod wedi cynnwys dadansoddiad mwy trylwyr a dadl, ond dydyn nhw ddim wedi ymddiheuro am agwedd negyddol yr eitem gyfan.

Roedd llawer o staff y BBC ar faes yr Eisteddfod yn gandryll gyda’r eitem oedd yn holi ai ‘help’ neu ‘hindrans’ oedd yr iaith Gymraeg.

Er na allen nhw wneud sylwadau cyhoeddus, roedd amryw’n flin gyda’r dewis o gyfranwyr – dyn o’r enw Julian Ruck sy’n adnabyddus am ei ymosodiadau ar yr iaith ar un ochr a gwraig heb lawer o wybodaeth am y Gymraeg yn ceisio’i hamddiffyn.

Datganiad y BBC

Yn ôl y BBC heno, roedd “gwahanol safbwyntiau” wedi eu cynnwys ond roedd “yn ddrwg ganddyn nhw” nad oedd y “dadansoddiad a’r ddadl yn fwy trylwyr”.

Ac roedd eu datganiad dwy frawddeg yn gorffen trwy ddweud, “R’yn ni’n credu ei bod yn bwysig edrych ar y pwnc yma a byddwn yn gwneud hynny eto yn y dyfodol.”