Cyfeillion y Cymro yn rhannu sticeri ar y Maes (Llun: golwg360)
Mae’r grŵp sy’n ymgyrchu i achub papur newydd Y Cymro yn “tyfu yn ddyddiol”, yn ôl aelod o’r ymgyrch.
Mae Cyfeillion y Cymro wedi bod yn lansio ei hymgyrch godi arian at atgyfodi’r papur newyddion cenedlaethol ar y Maes ym Modedern, wedi i’r wythnosolyn ddod i ben fis diwethaf.
Mae’r grŵp wedi bod yn codi arian mewn bwcedi ar faes y brifwyl, a’r bwriad yw dechrau ymgyrch ar-lein i godi mwy.
Y nod ar hyn o bryd ydi creu ychydig o dudalennau enghreifftiol ar gyfer cyfarfod â Chyngor Llyfrau Cymru ym mis Hydref.
“Yn ymarferol, dw i’n meddwl y dylai’r pwyslais fod at sut mae casglu arian gan bobol dros Gymru, nid yr wythnos hon y mae gwneud hynny,” meddai Wyn Williams wrth golwg360.
“Dw i methu dweud lot, gobeithio y bydd datganiad cyffrous ganddon ni cyn bo hir ar sut y byddwn ni’n mynd ati i dorfoli [crowdsource] yr ymgyrch, i gael ymgyrch ariannu torfol.”
Daeth tua 20 i gyfarfod swyddogol Cyfeillion i’r Cymro ddydd Llun ar faes yr Eisteddfod, ac mae Wyn Williams yn gweld yr ymgyrch yn tyfu bob dydd.
“Ni angen pob math o bobol i helpu gyda chynllun busnes, syniadau nawdd, ac yn y pendraw y byddwn ni’n ceisio cael gohebyddion da.
“Mae Cyfeillion y Cymro yn tyfu yn ddyddiol, ni angen iddo fe fod rhywbeth sy’n dod o’r gwaelodion.”
Y bwriad yw “cael cwmni cyfyngedig dan warant, yn debyg i Radio Ceredigion, sy’n meddwl y bydd yr arian yn mynd yn ôl i mewn,” eglura Wyn Williams.
Y cyfryngau Cymraeg – pwysicach erioed wedi Newsnight
Cafodd trafodaeth ei chynnal ar y maes brynhawn yma ar ddyfodol y cyfryngau Cymraeg annibynnol, gydag Wyn Williams, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel DaiLingual, yn cadeirio.
Dywed mai “plwraliaeth” yw’r ateb i gael gwasg gref yng Nghymru a bod y rhaglen neithiwr ar Newsnight ar y Gymraeg yn profi mor bwysig yw hynny.
“Y cwestiwn yw a yw Llundain yn erbyn gweddill Prydain fel petai neu a oes yna broblem fwy rhwng y cyfryngau Saesneg a’r cyfryngau Cymraeg.
“Beth bydda i’n gosod mas yw bod cymaint o rym mewnol wedi’i leol yn Llundain, bod e’n anodd iawn i unrhyw lais y tu allan i Lundain gael gwrandawid yn rhyngwladol sydd yn dod yn fwyfwy pwysig wedi Brexit. Mae’n hollbwysig bod llais ar gael sy’n cyfleu stori Cymru.”