Fe fyddai modd gwario dros £60m yn ychwanegol ar ddalledu cyhoeddus a sefydlu tair sianel deledu a thair gorsaf radio Cymraeg, pe byddai pwerau’n cael eu datganoli i Senedd Cymru, yn ôl ymchwil a gyhoeddir ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Iau, Awst 10).

Mae’r papur polisi a gyhoeddir gan Gymdeithas yr Iaith yn amlinellu model o ddatganoli a fyddai’n esgor ar arian ychwanegol i Gymru pe baiAelodau Cynulliad yn cael y pwerau newydd.

O dan gynllun y Gymdeithas, byddai tua £190m y flwyddyn yn dod yn sgil datganoli’r ffi drwydded  Gymru.

Amlinellir yn y papur hefyd gynigion i godi ardoll newydd ar gwmnïau fel Google, Sky a Facebook a allai godi hyd at £30m y flwyddyn, gyda ffigwr tebyg o arian ychwanegol drwy drosglwyddo pwerau i Gymru.

Sefydlu egwyddor

“Rydym wedi gosod allan gynigion manwl yn y papur hwn, ond yn y pendraw swyddogaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill fydd paratoi’r manylion er mwyn datganoli’r pwerau,” meddai Carl Morris, cadeirydd grwp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Fodd bynnag, mae’r brif egwyddor yn ddiamheuol: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru. Ac mae’n glir o arolygon barn bod y rhan helaeth o bobol Cymru yn cefnogi hynny.

“Mae sefyllfa ariannol darlledu Cymraeg a Chymreig yn hynod fregus fel y mae; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol.

“Byddai datganoli darlledu felly yn hwb enfawr i ddarlledu a democratiaeth Cymru, gyda llawer mwy o arian yn cael ei wario ar ddarlledu yng Nghymru nag sydd heddiw. Yn ogystal â hynny, byddai’r holl raglenni darlledu cyhoeddus yn cael eu cynhyrchu o safbwyntiau Cymru felly byddent yn adlewyrchu dyheadau pobol Cymru.”

Tair sianel?

Mae’r papur hefyd yn datgan bod modd ariannu tair sianel deledu Gymraeg eu hiaith, tair gorsaf radio, nifer o lwyfannau newydd ar-lein ynghyd ag endid dwyieithog newydd.

Yn 2014, argymhellodd Comisiwn Silk – adolygiad o’r setliad datganoli a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain – y dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhannol gyfrifol am ariannu S4C.

“Mae’r achos dros wneud Lywodraeth Cymru’n gyfrifol am ariannu S4C ynddiamheuol wedi’r difaterwch a’r toriadau creulon ers blynyddoedd bellach sydd wedi dod o du Llywodraeth Prydain,” meddai Carl Morris wedyn.

“Yn wir, mae’n anodd gweld sut gallai’r Gweinidogion yn San Steffan gyfiawnhau peidio â gweithredu’r argymhelliad trawsbleidiol yna.”