Llun Golwg360
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi dechrau ymchwiliad i farwolaeth gyrrwr a oedd yn cael ei ymlid gan gar plismyn.

Fe gafodd Andrew Gwynne o Gaerloyw ei ladd nos Sadwrn pan drawodd ei gar Ford Focus coch yn erbyn Landrover a oedd wedi aros ar y llain galed ar draffordd yr M4 ger cyffordd 32 yn Coryton, Caerdydd.

Roedd Heddlu De Cymru’n dilyn y dyn 35 oed ar ôl i’w deulu ddweud ei fod ar goll a’u bod yn poeni am ei les – ond fe wrthododd ag aros ac fe fethodd cynigion i’w atal.

Yn ôl y Comisiwn, mae ganddyn nhw enwau nifer o dystion i’r hyn ddigwyddodd.

Fel rheol, mae’r heddlu’n gofyn i’r Comisiwn ymchwilio pan fyddan nhw’n rhan o ddigwyddiad angheuol o’r fath.