Aled Edwards - angen ystyried achosion atagasedd, meddai (Llun Golwg360)
Mae aelod amlwg o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud y bydd yn gofyn i’r corff hwnnw ymchwilio i achos Sports Direct a’r Gymraeg – os na fydd Comisiynydd y Gymraeg yn gallu dwyn y cwmni i gyfri.

Ac, yn ôl y Parch Aled Edwards yn dweud bod rhaid i siaradwyr Cymraeg ddechrau trin ymosodiadau o’r fath ar yr iaith fel achosion o atgasedd a mynd â nhw at yr heddlu.

Wrth gyhoeddi rhybuydd yn wahardd gweithwyr rhag defnyddio’r un iaith ond Saesneg, meddai, roedden nhw’n euog o ddangos atgasedd at y Gymraeg a ieithoedd eraill, meddai.

Ac mae wedi rhyubuddio bod peryg i achosion tebyg ddigwydd yn amlach wrth i “genedlaetholdeb Prydeinig ffyrnig” dyfu yn sgil Brexit a hynny’n arwain at anoddefgarwch at bethau sy’n wahanol.

Angen gweithredu

Aled Edwards oedd y Comisiynydd Cydraddoldeb pan fu achos tebyg gyda chwmni teithio Thomas Cook – roedd yn gobeithio y byddai Sporst Direct hefyd yn cydnabod eu camgymeriad fel y gwnaethon nhw ac y byddai grymoedd y Ddeddf Iaith yn ddigon.

Ond, os na fyddai hynny’n digwydd ac os na fyddai pwerau Comisiynydd y Gymraeg yn ddigonol, roedd yn credu y dylai’r Comisiwn Hawliau Dynol ystyried yr achos.

“Alla’ i ddim siarad ar ran y Comisiwn ond fy marn bersonol i ydi y dylai hyn gael ei ystyried dan bennawd camwahaniaethu ar sail greiddiau cenedlaethol a’r ffaith fod ymddygiad y cwmni’n anghymesur,” meddai wrth Golwg360 ar faes yr Eisteddfod.

“Allwch chi ddeall weithiau bod rhaid defnyddio lingua franca mewn sefyllfa waith ond mae’n ymddangos eu bod nhw wedi rhoi gwaharddiad absoliwt cyffredinol.”

Atgasedd

“Yn yr hinsawdd presennol, yn dilyn Brexit, mae yna genedlaetholdeb Prydeinig ffyrnig yn tyfu sy’n gynyddol anoddefgar at wahaniaeth,” meddai Aled Edwards. “Othering ydi’r gair Saesneg.

“Mae’r un peth efo addysg Gymraeg – fel achos Llangennech – pan oedd i’n gwbl anghywir cymharu addysg Gymraeg efo math o apartheid.

“I fi mae casáu iaith ddigon i atal dau berson rhag siarad yr iaith efo’i gilydd yn ddigwyddiad atgasedd.

“Mae’n rhaid i ni ddechrau meddwl yn y telerau hynny. Os ydi rhywun yn camgynrychioli addysg Gymraeg, er enghraifft, dw i’n credu bod yn rhaid i ni fod yn ddigon eofn i gyflwyno’r achos i’r heddlu a dweud, ‘mae hwn yn atgasedd’.”