Stephen Nutt o'r NSPCC (Llun: golwg360)
Mae animeiddiad Cymraeg newydd wedi ei lansio ar faes yr Eisteddfod er mwyn annog rhieni i ddysgu eu plant am beryglon y we.

Mae fideo ‘Stori Mai’ gan NSPCC Cymru yn cynnig cyngor i rieni ynglŷn â sut i drafod diogelwch ar y rhyngrwyd, ac mae’r fideo eisoes ar gael trwy gyfrwng y Saesneg

Roedd bron 500 o blant yng Nghymru wedi cysylltu â gwasanaeth Childline yr NSPCC y llynedd, er mwyn trafod bwlio a bwlio ar-lein.

Darpariaeth Gymraeg

Yn ôl Stephen Nutt o NSPCC Cymru, mae’r lansiad cyfrwng Cymraeg yn gam “pwysig” a’r gobaith yw y bydd yn annog sgwrsio rhwng rhieni a phlant.

“Mae hi yn bwysig bod yr adnoddau ar gael yn Gymraeg oherwydd rydym ni eisiau darparu adnoddau i rieni yn yr iaith maen nhw’n siarad gyda’u plant,” meddai Stephen Nutt wrth golwg360.

“Os ydym ni’n ceisio annog sgyrsiau rhwng plant a’u rhieni sy’n siarad Cymraeg, mae’n bwysig ein bod ni’n cael adnoddau i gefnogi hyn. Mae’r holl adnoddau ar gael ar ein gwefan. Hefyd rydym wedi bod yn cynnal gweithdai heddiw.”

“Ofni siarad”

“Mae llawer o rieni yn ofni siarad am y we gyda’u plant,” meddai Stephen Nutt. “Mae hyn oherwydd nifer o resymau, ond dydy llawer o rieni ddim yn deall y dechnoleg. Felly maen nhw’n credu eu bod nhw methu siarad â’u plant ynglŷn â’r pwnc.

“Ond beth rydym ni’n trio dweud wrth rieni trwy’r ymgyrch hyn ydy, does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar y byd ar-lein. Mae modd cael sgyrsiau gyda’ch plant ynglŷn â sut i gadw’n saff yn y byd go iawn, ac mae modd cael yr un fath o sgyrsiau am y byd ar lein.”