Rhodri Morgan
Fe fydd un o ffrindiau pennaf y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan, yn tynnu sylw at ochr ddifrifol y gwleidydd wrth roi teyrnged iddo yng nghyfarfod Cymdeithas Cledwyn y Blaid Lafur yn yr Eisteddfod.

Bu farw Rhodri Morgan ar 17 Mai eleni yn 77 oed.

“Mae pobol wedi arfer â gweld Rhodri yn ei grys rygbi,” meddai Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, “maen nhw’n gwybod am straeon am ba mor ffantastig oedd e gyda phobol.

“Mae hynny i gyd yn wir, ond weithiau dw i’n meddwl bod yr ochr difrifol o’i bwrpas gwleidyddol yn cael ei golli. Roedd yn wleidydd llawer fwy difrifol, ac roedd ganddo syniadau difrifol iawn am ddatganoli.”

“Blwyddyn gyntaf ofnadwy”

Yn 2000, roedd Mark Drakeford yn ymgynghorydd arbennig i’r Prif Weinidog Rhodri Morgan yn ystod dyddiau cythryblus cyntaf y Cynulliad.

“Roeddwn i’n meddwl efallai na fyddai’r lle yn parhau, wrth ddod i mewn o’r tu allan, roeddwn i’n meddwl bod pobol wedi dod i ben eu tennyn fan hyn.

“Roedd hi’n flwyddyn gyntaf ofnadwy, roedd tri o arweinwyr y pleidiau wedi gorfod mynd. Gallwch chi ddim dychmygu dechreuad gwaeth i sefydliad ac roedd y sefydliad yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar yr hyn oedd yn digwydd y tu fewn iddo, yn hytrach na ffocysu ar yr hyn y gallai datganoli ei olygu i bobol Cymru.”

“Newid enfawr”

Roedd dechrau’r glymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn allweddol i’r newid cyfeiriad yn hanes y Cynulliad, meddai.

“Dyw clymbleidio ddim yn ffordd naturiol i’r Blaid Lafur feddwl am bethau, yn sicr ddim yn y dyddiau cynnar hynny. Roedd yn rhaid iddo fynd i drafferth fawr i wneud i’r glymblaid hwnnw i ddigwydd.

“Fe wnaeth y llif ar ddatganoli droi yn ystod y gaeaf hwnnw. Roedd cyfres o drychinebau dros y gaeaf – y brotest ar danwydd, llifogydd, clwy’r traed a’r genau.

“Ond erbyn y diwedd, roeddwn i’n gweld, pan fo heriau yn wynebu pobol Cymru, y lle cyntaf maen nhw’n mynd iddo i geisio gweld beth ellir ei wneud yw’r Cynulliad. Roedd hynny’n newid enfawr.”

Cyfarfod Cymdeithas Cledwyn – Teyrnged i Rhodri Morgan, Dydd Mawrth, Awst 8, Pabell y Cymdeithasau

Stori: Mared Ifan