Pobl yn ciwio ym Mona ddydd Llun (Llun: Golwg360)
Mae’r trefniadau teithio rhwng Mona â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern yn parhau ddydd Mawrth o ganlyniad i amodau’r meysydd parcio gwreiddiol.

Mae teithwyr yn cael eu hannog i barcio eu ceir ym maes Sioe Môn, Mona gan ddal bws gwennol i’r maes.

Er hyn, mae disgwyl y bydd mwy o fysiau gwennol ar gael heddiw a hynny yn dilyn cwynion ddydd Llun am giwiau ac oedi hir.

Mae’r trefnwyr wedi cadarnhau fod modd i bobol â bathodynnau glas, stondinwyr ac artistiaid â phás maes barhau i faes parcio Ysgol Uwchradd Bodedern lle bydd trefniadau teithio ar eu cyfer nhw.

Cafodd y trefniadau hyn eu cyflwyno ddydd Llun yn dilyn glaw trwm oedd wedi achosi problemau yn y meysydd parcio ac ar y maes.

Ailagor ddydd Mercher?

Mewn cyfweliad â golwg360 brynhawn ddoe dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ei fod yn gobeithio y gallai’r meysydd parcio gwreiddiol ailagor ddydd Mercher.

“Rydym yn gobeithio erbyn dydd Mercher, bydd y meysydd parcio – sydd ddim yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd – wedi cael cyfle i sychu ac y byddwn yn gallu defnyddio rheina eto. Ond, gawn ni weld,” meddai.

Yn y cyfamser, mae’n annog pobol i fod yn “amyneddgar” ac yn “ofalus” o gwmpas y maes ac wrth deithio yno.