Andrew Gwynne o Gaerloyw (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar yr M4 ar ôl i ddyn farw wrth i’r heddlu ei erlid.

Bu farw Andrew Gwynne, 35 oed, o Gaerloyw yn y gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 rhwng cyffordd 32 a 30 ddydd Sadwrn, 5 Awst.

Roedd  Andrew Gwynne yn gyrru car Ford Focus coch, a oedd yn cael ei erlid gan yr heddlu, pan fu mewn gwrthdrawiad a Landrover wrth deithio i gyfeiriad y dwyrain tua 6yh ddydd Sadwrn. Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu eu bod wedi “torri ein calonnau gyda’r newyddion trasig am ei farwolaeth”.

“Roedd yn dad, partner, mab, ewythr a brawd bendigedig a bydd colled fawr ar ei ôl.”