Pabiau yn y Senedd (Llun: Geoff Caddick/PA Wire)
Mae’r arddangosfa sy’n coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf bellach wedi cyrraedd Bae Caerdydd.

Cafodd y cerflun Weeping Window ei arddangos gyntaf yn Nhŵr Llundain yn 2014 ac mae’n cynnwys miloedd o babïau coch seramig.

Ers hynny mae wedi bod ar daith ymhob cwr o wledydd Prydain gan gynnwys ymweld â chastell Caernarfon am gyfnod ym mis Hydref y llynedd.

Mae’r arddangosfa wedi’i chreu gan yr artist Paul Cummins a’r cynllunydd Tom Piper i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Mawr.