Tywydd gwlyb a garw yn Sir Fôn sy’n gyfrifol bod y Gymanfa Ganu yn hwyr yn dechrau.

Fe ddaeth cyhoeddiad yn dilyn rhaglen o uchafbwyntiau’r dydd ar S4C y byddai’r sianel yn darlledu rhaglen hanner awr ychwanegol yn hytrach na chroesi i’r Pafiliwn ym Modedern.

Ar hyn o bryd, mae eisteddfodwyr yn dal i gael trafferth i gyrraedd y Maes, ac mae cyflwr mwdlyd y meysydd parcio yn gwneud mynd a dod yn anodd.

Yn gynharach heddiw, fe gyhoeddodd yr Eisteddfod apêl ar i’r rheiny fydd yn ymweld â maes y brifwyl ddydd Llun i’w gwnwud hi i faes parcio maes Sioe Môn ym mhentref Mona, a chymryd bws gwennol o’r man hwnnw.

Mae S4C yn gobeithio darlledu’r Gymanfa Ganu yn fyw am 8.30yh.