Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 37 oed gael ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd arall ym Mhort Talbot.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Cwmafan am 10 o’r gloch y bore ma.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Cafodd gyrrwr y cerbyd arall fan anafiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.