Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi trefniadau teithio brys oherwydd y glaw trwm ym mro Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Fe fydd yr Eisteddfod yn defnyddio system bws gwennol i gludo teithwyr i’r Maes yfory (dydd Llun, Awst 7).

Fe fydd teithwyr o’r tir mawr yn cael eu cyfeirio i adael yr A55 ar gyffordd 6 – ac nid cyffordd 4 – i faes parcio Sioe Môn ym Mona am gyfnod.

Fe fydd defnyddio’r maes parcio hwnnw’n arbed y tir ym Modedern wrth i’r tywydd wella ddiwedd yr wythnos.

Mae arwyddion yn eu lle i gyfeirio teithwyr i’r maes parcio dros dro.