Yr Wyddfa (Llun: Tîm Achub Mynydd Llanberis)
Mae amheuon bod dynes wedi torri ei phenglog ar ôl disgyn wrth ddringo’r Wyddfa.
Cafodd tîm achub mynydd Llanberis eu galw toc cyn 5 o’r gloch nos Sadwrn ar ôl iddi fynd i drafferthion ger y Pyg.
Ond oherwydd bod ei hanafiadau mor ddifrifol, cafodd gwylwyr y glannau eu galw i gynorthwyo’r achubwyr.
Cafodd hi ei chludo wedyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Nifer o ddigwyddiadau tebyg
Hwn yw’r trydydd digwyddiad o’r math mewn cyfnod o wythnos.
Roedd dyn eisoes wedi cael ei achub ganddyn nhw cyn hynny ar ôl mynd i drafferthion ar y Grib Goch.
Bu farw Malcolm William David Tinsley, 26, ar yr un llwybr nos Lun.
Ychydig ddiwrnodau cyn hynny, bu farw dyn arall ar fynydd Tryfan.