Sports Direct (Llun: Joe Giddens/PA Wire)
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau ei bod hi’n cynnal ymchwiliad i helynt Sports Direct ym Mangor.

Daeth cadarnhad ar gyfri Twitter y Comisiynydd yn dweud ei bod hi “wedi rhoi cyfarwyddiadau i’w swyddogion agor ymchwiliad dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011”.

Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am ymchwiliad.

Cefndir

Daeth arwyddion i’r amlwg ddoe oedd yn awgrymu bod staff y siop ym Mangor wedi’u gwahardd rhag siarad Cymraeg.

Roedd yr arwydd, sy’n cael ei rannu ar wefan Twitter, yn dweud mai “Saesneg yw iaith swyddogol y cwmni”, a bod “rhai aelodau staff wedi bod yn siarad â’i gilydd mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg”.

Mae’r nodyn yn “atgoffa staff fod rhaid iddyn nhw siarad Saesneg â’i gilydd bob amser” er mwyn i’r “holl staff ddeall ei gilydd”.

Mae’r polisi, meddai’r cwmni, yn cynnwys “sgyrsiau personol yn ystod oriau gwaith”.

‘Peryglon’

Wrth gyfiawnhau’r polisi, dywed yr arwydd fod siarad unrhyw iaith ac eithrio Saesneg yn achosi “amryw o beryglon… gan gynnwys iechyd a diogelwch”, a’i fod “er lles pawb fod staff yn deall ei gilydd bob amser”.

Serch hynny, dywed y cwmni y gall sgyrsiau preifat rhwng aelodau staff ar y safle y tu allan i oriau gwaith fod “yn newis iaith” y staff.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360 fod yr arwydd yn “fwy perthnasol i’w siopau yn Lloegr na Chymru”.

Twitter

Ar ei thudalen Twitter, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg: “Yn dilyn yr honiadau am bolisi iaith Sports Direct, mae’r Comisiynydd wedi rhoi cyfarwyddiadau i’w swyddogion agor ymchwiliad dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.”